![]() |
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
|
Croeso i wefan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru! Y Ffederasiwn yw’r sefydliad ar gyfer holl weithwyr yr amgueddfeydd yng Nghymru, cyflogedig a gwirfoddol. Mae’n bodoli er mwyn hyrwyddo arferion da yn yr amgueddfeydd a’r orielau ledled y wlad a chynnig talwrn trafod ar gyfer materion o bwys i’r aelodau. Mae’r Ffederasiwn yn trefnu seminarau a darlithoedd rheolaidd ac mae’n cynhyrchu ei newyddlen, Ar hyn o bryd, mae newidiadau mawr yn digwydd yn y Ffederasiwn. Ers mis Mai 2004 rydym wedi bod yn elusen gofrestredig. Gyda thranc Cyngor Amgueddfeydd Cymru a ffurfio CyMAL, Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, y Ffederasiwn yw’r unig sefydliad yn y wlad sy’n ymroi’n gyfan gwbl i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn amgueddfeydd. Rydym eisoes yn gweithio’n glos gyda CyMAL a’i swyddogion a’n gobaith yw creu cysylltiadau gyda sefydliadau sy’n cynrychioli llyfrgellwyr ac archifwyr ond ein prif nod bob amser fydd amddiffyn ac atgyfnerthu lle’r amgueddfeydd ym mywyd diwylliannol Cymru. Fe gewch yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Ffederasiwn o edrych yn rheolaidd yn y 'Newyddion' a’r 'Dyddiadur'. Ar y dudalen 'Grwpiau Gwaith' fe welwch enwau’r bobl i gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth am bwnc arbennig neu os ydych chi am awgrymu gweithgaredd ar gyfer y sefydliad. Rydym yn gobeithio y bydd y wefan hon o ddiddordeb i chi ac y byddwch yn rhoi gwybod i ni beth hoffech chi ei weld yma. Rhowch wybod i ni hefyd os nad yw unrhyw ran o’r wefan yn gweithio. Cysylltwch ag awdur y wefan yma.
|
|
© 2007 Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru
|
|
|