![]() |
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
|
Gweithgorau Mae’r Ffederasiwn wedi galw ynghyd pedwar o weithgorau a fydd yn rhoi sylw i faterion penodol sy’n ymwneud ag Amgueddfeydd yng Nghymru. Anogir yr aelodau i ddefnyddio’r grwpiau hyn ar gyfer cyngor, rhannu cysylltiadau a chynghorion buddiol ac ar gyfer awgrymu dyddiau hyfforddi a seminarau yn y dyfodol. Wrth eu gwaith, mae’r gweithgorau fel is-bwyllgorau bychain, yn cynnwys nifer o aelodau cyffredin ac aelod o’r Pwyllgor yn gadeirydd. Gall unrhyw aelod o’r Ffederasiwn gysylltu ag unrhyw gweithgor i gael cyngor a mynychu’r gweithdai a’r seminarau. Os oes diddordeb gennych mewn rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd trwy fod yn aelod o weithgor, mae croeso i chi gysylltu â’r person perthnasol isod. Os ydych chi am gael cyngor, cymorth neu ragor o wybodaeth am bwnc arbennig, mae croeso hefyd i chi gysylltu â’r grŵp perthnasol. Bydd cadeirydd pob un o’r grwpiau yn gallu eich cysylltu chi gyda rhywun a fydd yn gallu eich helpu chi neu a fydd yn trafod eich mater gyda gweddill y grŵp a cheisio dod o hyd i’r ateb mwyaf buddiol. Rydym ni yma i’ch helpu chi! Cyswllt: Frank Olding
Stiwardiaeth
Cyswllt: Jane Henderson E-bost: stewardship@welshmuseumsfederation.org.uk Mae aelodau grŵp stiwardiaeth y ffederasiwn yn ystyried materion sy’n ymwneud â rheoli casgliadau, cadwraeth a dogfennau. Cynullydd y grŵp yw Jane Henderson. Roedd gan y Grŵp Stiwardiaeth ran yn y gwaith o drefnu cynhadledd ‘Cadwraeth yng Nghymru’ a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2006. Yn y gynhadledd Adeiladau Anodd: Chwilio am Atebion, rhoddwyd sylw i broblemau gyda rheoli casgliadau gydag ac mewn adeiladau hanesyddol neu anarferol. Cafwyd arian trwy grant gan CyMAL ar gyfer siaradwyr cyweirnod a chyhoeddiad dwyieithog o’r papurau a gyflwynwyd.
I weld neu lawrlwytho’r papurau dilynwch y ddolen hon i’r wefan
Adeiladau Heriol: Chwilio am Ddatrysiadau.
Mae’r grŵp stiwardiaeth yn ymwneud â datblygu grŵp ICON Cymru. Heather Perry yw cynrychiolydd ICON dros Gymru ac mae hi hefyd yn aelod o grŵp stiwardiaeth y Ffederasiwn. Gallwch gysylltu â hi yn Amgueddfa Glyn Cynon ar
Heather.Perry@rhondda-cynon-taff.gov.uk. Bwriedir cychwyn ICON Cymru cyn bo hir. Archifau archeolegol. Mae’r grŵp cyflawni Beth Sydd Ar Gof a Chadw wrthi’n datblygu safon ar gyfer casglu, cadw ac adneuo archifau archeolegol. Mae Jane Henderson yn cynrychioli prifysgolion ar y grŵp ond mae hi hefyd yn cyfrannu’n benodol o safbwynt cadwraeth i’r gwaith o ddatblygu’r safon newydd. Fe gewch chi ragor o wybodaeth am Beth Sydd Ar Gof a Chadw trwy ddilyn y ddolen o’r dudalen Prosiectau ar y wefan hon.
Mynediad & Dysgu
Cyswllt: Emma Lewis E-bost: access.learning@welshmuseumsfederation.org.uk Nod: Bydd y grŵp hwn yn ystyried materion sy’n ymwneud â defnyddio casgliadau trwy arddangos, addysg a gweithgarwch allanol. Rydym yn gallu cynnig cyngor ar faterion fel creu gwasanaeth benthyciadau, defnyddio hanes llafar mewn arddangosfeydd neu weithio gyda grwpiau cymunedol arbennig er enghraifft. Os ydych chi am holi ynglŷn â gwella’r cysylltiad gyda’r gynulleidfa sydd gennych neu ynglŷn â dulliau o ddefnyddio eich casgliadau yn wahanol, dylech gysylltu â’r grŵp hwn. Mae’r Gweithgor Mynediad a Dysgu â diddordeb mewn dulliau o wella mynediad i amgueddfeydd yng Nghymru. Yn y dyfodol mae’n bosibl y byddwn yn cychwyn ymchwil i faterion fel faint o addysg amgueddfa sy’n cyrraedd plant Cymru, defnyddio casgliadau gan leiafrifoedd ethnig a defnyddio cyfryngau electronig ar gyfer mynediad i gasgliadau. Os ydych chi’n gwybod am faes arbennig yr hoffech chi weld rhagor o ymchwil iddo, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda. | ||||||||||||||||
|
© 2007 Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
|||||||||||||||||
|
|