![]() |
Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
|
Grŵp Trafod Grŵp Trafod y Ffederasiwn yw’r dull mwyaf syml o e-bostio’r holl aelodau'r un pryd. Mae’n gallu bod yn fodd i gyhoeddi digwyddiadau, holi am gynhyrchion neu wasanaethau’r amgueddfeydd, trafod dogfennau y mae CyMAL, MLA neu’r MA yn eu cynhyrchu neu ofyn am gymorth yn unig. Yn wir, mae modd i unrhyw beth o dan yr haul fod o dan sylw er bod y grŵp yn cael ei safoni er mwyn atal ‘sbamio'. Un o aelodau’r Pwyllgor sy’n safoni’r grŵp trafod ac mae’n rhan o’r ddarpariaeth Yahoo. Bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair Yahoo arnoch er mwyn ymuno, sy’n ddigon rhwydd. Yna bydd rhaid i chi wneud cais i ymuno â’r Grŵp a disgwyl hyd nes bydd y Safonwr wedi awdurdodi eich aelodaeth cyn y byddwch yn gallu darllen y negesau a anfonir neu anfon un eich hun. Dim ond aelodau’r Ffederasiwn sy’n cael bod yn aelodau o’r grŵp trafod.
| ||||||||||||||||
|
© 2007 Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru |
|||||||||||||||||
|
|