Tim Padfield
Jane Brunning
Jonathan Ashley-Smith
RE Child
Gerallt D Nash
Heather Perry
Jane Henderson

Poeth, Poeth, Poeth yn yr haf

Adeilad rhestredig Gradd 2 yw cartref Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon. Agorodd y safle i’r cyhoedd yn 2000. O 2006 ymlaen, dyma fydd canolfan gasgliadau’n gwasanaeth ni.

Dyma rai o’r rhesymau bod yr amgylchedd mewnol yn anodd i’w gadw dan reolaeth:

  • Bod yr oriel a’r prif storfeydd yn agored i’r to 9 metr uwchben.
  • To croen sengl, heb ei inswleiddio, gyda chwteri rhwng cefnau’r to. Y drysau, ac uniad y to a’r welydd, heb gael eu selio’n arbennig o dda. Gwydr sengl ar y ffenestri i gyd, heb nodau, a systemau diogelwch na hidlyddion.
  • System aerdymheru aneffeithiol, sy’n darparu ychydig yn fwy na gwresogi lefel isel yn ystod y gaeaf.
  • Bricwaith heb gael ei drin i atal llwch a halwyni rhag cronni.
  • Y ffwrnesi chwyth yng nghefn yr adeilad yn fagwrfa i lygod mawr, colomennod, a phlâu eraill.

Does dim modd gwella cyflwr cyffredinol y safle heb adnewyddu ar raddfa helaeth. Rhaid canolbwyntio gan hynny ar geisio cyflawni newidiadau llai er mwyn gwella’r amgylchedd presennol.

Bellach, mae system monitro amgylcheddol helaeth ar waith yn yr Amgueddfa. Gan hynny, bydd tystiolaeth gadarn yn sail i benderfyniadau’r dyfodol. Un ffaith a ddaeth i olau dydd oedd mor ansad yw amgylchedd yr orielau a’r storfeydd. Mae’r tymheredd yn uchel iawn yn yr haf ac yn isel iawn yn y gaeaf. Er bod y lleithder cymharol yn amrywio’n fawr iawn, ar y cyfan mae’n rhy isel.

O dipyn i beth mae’r Amgueddfa’n cefnu ar yr arfer o arddangos arteffactau yn yr aer amgylchynol. O hyn allan, byddwn ni'n creu microhinsoddau ar eu cyfer mewn casys. Drwy fonitro perfformiad y casys rydyn ni wedi cadarnhau’r gallu sylweddol i ragod tymheredd a lleithder cymharol. Bydd yr eitemau mwyaf sensitif yn mynd i’r casys gyda’r amgylchedd mwyaf sefydlog. Byddwn ni’n asesu ymhellach er mwyn penderfynu a oes angen mesurau rheoli gweithredol ar gyfer yr arteffactau mwyaf bregus.

Bob gaeaf, bydd cwteri’r to a’r pibellau draenio yn cael eu hatal, a’r dŵr yn llifo i’r adeilad. Mae mynd at y cwteri a’r pibellau’n waith lletchwith, sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd yn rhy gostus. Dyna pam fod angen offer i ganfod llifogydd ar y dechrau. Gan hynny, rydyn ni wedi gosod dyfeisiau sy’n seinio larwm wrth i ddŵr gyffwrdd â nhw yn y mannau lle mae’r broblem yn codi amlaf.

Mae llwch a baw yn broblem yn y storfeydd. Dyna pam rydyn ni wedi trefnu rhaglen gymhennu mwy manwl i’n casgliadau. Bydd pob eitem mewn blwch, a byddwn ni’n gosod gorchuddion i leihau difrod gan lwch. Yn y cyfamser, rydyn ni’n cadw’r arteffactau mwyaf sensitif yn y rhan o’r amgueddfa lle mae’r amgylchedd mwyaf sefydlog.

Rydyn ni wedi gosod rhwydi gwydr dros gegau’r ffwrneisiau. Mae hyn yn rhwystro adar rhag clwydo a nythu yno. Yn ogystal â hynny byddwn ni’n cadw’r fan rhwng yr amgueddfa a’r ffwrneisiau’n glir o sbwriel a llystyfiant. Mae hyn yn atal anifeiliaid pla rhag dod i mewn i’r amgueddfa.

Dechreuodd y gwaith addasu cyn y penderfyniad i ddefnyddio’r adeilad fed amgueddfa. Gan hynny, doedd dim arbenigwyr wrth law i roi cyngor, ac fe gollwyd sawl cyfle i atal llawer o’r problemau. Ar ben hyn i gyd roedd cofnod yr adeilad ar y Rhestr yn anghywir. Mae sawl problem yn dal i ddeillio o’r camargraff taw gwaith haearn o’r 19eg ganrif gynnar oedd yr adeilad. Ond fe fydd yr astudiaeth achos yma’n fodd i weld sut y gall amgueddfa fach heb lawer o adnoddau fynd i’r afael â’i phroblemau.