Tim Padfield
Jane Brunning
Jonathan Ashley-Smith
RE Child
Gerallt D Nash
Heather Perry
Jane Henderson

Sut i gynllunio adeilad amgueddfa sy'n amddiffyn y casgliad heb ei ddinistrio ei hun

Hawlfraint trwydded Creative Commons – am ddim i'w ddefnyddio, rhaid cydnabod yr awdur, ni chaniateir gwneud newidiadau.

Mae peirannau aerdymheru'n rhan annatod o bob adeilad cyhoeddus a masnachol bellach. Erbyn hyn, rydyn ni bron â thrin y dyfeisiau gwylaidd yma'n glasuron o waith y dylunydd. Weithiau, bydd modd gweu elfennau ohonyn nhw i mewn i ffasâd. Mae hyn i'w weld yn gynnil o ffraeth yn estyniad Robert Venturi i'r Oriel Genedlaethol yn Llundain (Ffig. 1), neu mewn ffordd fwy bras ac eofn yn adeilad Lloyds, o waith Richard Rogers. (Ffig. 2).

Ffigur 1 Mynedfa gefn yr estyniad i'r Oriel Genedlaethol, Llundain (1991). Penseiri: Venturi, Rauch and Scott Brown.

Ffigur 2 Adeilad Lloyds, Llundain (1984). Pensaer: Richard Rogers.

Mae aerdymheru'n cwmpasu gwresogi, oeri, lleithio, a dadleithio. Bydd hyn yn defnyddio llawer iawn yn fwy o ynni na gwresogi adeilad. (Ffig. 3). Mae angen digon o le yn yr adeilad i'r offer hefyd. Cymerwch ddadleithio, er enghraifft: mae angen pibellau er symud yr aer o le i le yn yr adeilad. Weithiau, bydd y pibellau a'r cyfarpar angenrheidiol yn llyncu chwarter o'r gofod tu fewn iddo! At ei gilydd, bydd peiriannau aerdymheru'n para am ryw 20 mlynedd. Erbyn hynny byddan nhw wedi treulio'n llwyr, neu bydd offer mwy effeithlon ar gael. Ond mae anfanteision ychwanegol i aerdymheru mewn amgueddfa. Mae'r offer yn swnllyd, ac mae angen pibellau cul a throellfaol yn aml mewn hen adeiladau. Bydd angen gwylio'r offer yn barhaus: wedi'r cyfan, os bydd dyfais reoli'n methu, fe allai ystafell arddangos fod yn llawn ager ymhen ychydig funudau. Bydd angen hyfforddi gweithwyr mewn sgiliau heb fod yn rhy agos at arbenigedd craidd y staff. Mae cynnal a chadw'r system rheoli hinsawdd yn straen ar y gyllideb, ac yn mynd ag arian o swyddogaethau craidd megis ymchwil a churadu.

Ffigur 3 Mae aerdymheru yn gryn faich ar adnoddau amgueddfa. Mae'r offer yn cymryd llawer o le ac yn gwneud sŵn, mae'n defnyddio mwy o danwydd na'r system wresogi, ac mae angen technegwyr hyfforddedig i'w rhedeg. Ac mae eitemau'r casgliadau yn para'n llawer hwy!

Llwybrau gyrfa gwahanol iawn fydd gan yr ysgolhaig celf a'r technegydd microhinsawdd. Hyd yma, dydy'r cadwraethydd amgueddfa ddim wedi llwyddo i bontio'r agendor rhyngddyn nhw. At ei gilydd, dydy cadwraethwyr ddim wedi derbyn addysg wyddonol cyn cychwyn ar eu hyfforddiant. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi meistroli elfennau gwyddoniaeth, dydy gwyddor microhinsoddeg ddim yn rhan o feysydd llafur y prifysgolion. (Os gwn i pam?) Mae'r un diffygion i'w gweld yn addysg y penseiri hefyd. Beth mae curaduron cydwybodol i'w wneud wrth lunio manyleb ar gyfer gofynion technegol i'r pensaer. Boed yr adeilad yn newydd, neu'n un hen sydd i'w adnewyddu'n sylweddol, byddan nhw'n ymgynghori â'u cadwraethwyr, a'r rheiny wedyn yn troi at safon genedlaethol neu ryngwladol wedi'i diffinio gan ryw gorff o fri. Y safon yma fydd ffynhonnell eu cysyniad o hinsawdd yr amgueddfa. Awdurdod y corff safonau fydd yn sail i'w argymhellion, yn hytrach na dadansoddiad critigol/beirniadol o natur yr adeilad, y casgliad arteffactau, a'r hinsawdd leol.

Mae llunio safonau ar gyfer hinsoddau amgueddfeydd ac archifau'n arbennig o anodd, Bydd gofyn i'r fanyleb hyrwyddo hyd yr eithaf wydnwch posibl bob deunydd a ddefnyddiodd y ddynolryw erioed. Mewn rhai storfeydd arbenigol – archifau ffotograffig, er enghraifft – mae'r safonau wedi'u seilio ar ymchwil i ddeunyddiau penodol. Ond rhyw ddogfennau digon petrus yw'r safonau dibenion cyffredinol. Byddan nhw'n cymryd yn ganiataol fod amodau sy'n gyfforddus i ddynolryw yn gyfforddus i'r arteffactau a wnaeth pobl i rannu'u hamgylchfyd gyda nhw. Rhagdyb arall sydd gyda nhw yw taw'r amodau mwyaf cyson sy'n orau. Bydd y pwyllgor safonau'n gwybod am offer aerdymheru sy'n gallu cadw'r hinsawdd fewnol yn gyson beth bynnag yw'r tywydd y tu allan. Gan hynny, bydd eu manyleb yn gofyn am safon o gysondeb nad oes modd ei chyrraedd heb aerdymheru. Dewis digon diogel yw hwn, a fydd neb yn eu beio nhw. Os bydd y system yn methu cydymffurfio â'r safonau, bai'r peiriannydd dylunio fydd hynny. Ac fe fydd hwnnw yn ei dro'n amddiffyn ei enw da drwy ddylunio system eithaf geidwadol, gyda llawer o bŵer wrth gefn. Ac o goffrau'r amgueddfa daw'r arian i dalu am hyn i gyd.

Does dim gwadu bod sefydlogrwydd hinsawdd yn sicr o ymestyn hoedl arteffactau. Ond dychmygwch lun tu ôl i wydr, mewn ystafell lle mae'r aerdymheru dan reolaeth synhwyrydd mewn lle cysgodol. Mae'r synhwyrydd yn cadw'r aer i dymheredd priodol – ond yn gallu gwneud dim i atal niwed gan heulwen sy'n syrthio'n syth ar y llun ac yn codi'i dymheredd 40º. Hyd yn oed gyda'r goleuadau tyner mewn arddangosfeydd, bydd cynnau neu ddiffodd y goleuadau'n achosi amrywiad o 6% yn y lleithder cymharol. Er bod system aerdymheru dan reolaeth electronig i fod i sefydlogi'r microhinsawdd o gwmpas arteffactau, yn anaml y bydd yn llwyddo'n ymarferol.

Ond dydy aflwyddiant systemau aerdymheru wrth gadw'r microhinsawdd yn sefydlog ddim yn niweidiol ynddo'i hun. Daw'r niwed yn aml o weithrediad cywir y system. Os byddwn ni'n ymweld ag amgueddfa yn y gaeaf, byddwn ni'n disgwyl tymheredd cyffyrddus inni yn yr adeilad. Rhwng y tymheredd yma, a'r lleithder cymharol sydd i fod yn angenrheidiol ar gyfer gweithiau celf, bydd cryn ddiriant i'r adeiladwaith. Gwrandewch ar hanes ymgais i adnewyddu adeilad hynafol i gydymffurfio â safonau modern gofal am gasgliadau heb ddifwyno'i harddwch cynhenid. Fel adferiad ffyddlon o adeilad hanesyddol, bu'r ymgais yma'n fethiant.

Cafodd Adeilad Celfyddyd a Diwydiant Washington DC (Ffig. 4) ei ddylunio fel amgueddfa, gan agor ym 1881. Roedd y system awyru'n gweithio yn yr un ffordd â'r tywydd y tu allan. Bydd aer gynnes yn codi drwy'r meindyrau, ac aer mwy claear yn dod i mewn drwy'r drysau i gymryd ei le. (Cafodd offer aerdymheru'i osod yn llawer diweddarach.)

Ffigur 4 Adeilad Celfyddyd a Diwydiant, Washington, D.C. Pensaer: Adolf Cluss. Agorwyd 1881. Mae'r man arddangos i gyd ar un llawr. Yn wreiddiol, y cynllun oedd i awyru'r adeilad drwy dynnu awyr iach i mewn drwy'r drysau wrth i awyr gynnes godi drwy'r meindyrau. Cafodd to newydd ei osod ym 1975, ond dirywiodd gymaint nes bod angen cau'r adeilad erbyn hyn (2006). Yn ôl Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Gadwraeth Hanesyddol yr Unol Daleithiau, mae'r amgueddfa yma ar restr y 11 adeiledd hanesyddol sydd yn y perygl mwyaf.

Bu cryn waith adfer wrth baratoi i ddathlu'r canmlwyddiant. Roedd haid o swyddogion wedi rhannu un o'r lloriau arddangos yn swyddfeydd, ond symud fu raid iddyn nhw. Cafodd to newydd ei osod hefyd. Roedd hwn i fod i gydymffurfio â safonau modern o ran inswleiddio thermol a gallu i wrthsefyll tân, heb golli harddwch yr hen do.

Fe ddaeth y to newydd yn enwog yn fuan ar ôl i'r adeilad ail-agor yng Ngwanwyn 1976. Er bod y tywydd y tu allan yn braf, roedd hi'n bwrw glaw tu fewn (Ffig. 5). Bu arbenigwyr yn ymchwilio am flwyddyn gron, a darganfod taw anwedd oedd wedi cyddwyso lle roedd awyr yn yr adeilad wedi lleithio. Mae ffig. 6 – 12 yn disgrifio'r broses yma.

Ffigur 5 Yn fuan ar ôl i Adeilad Celfyddyd a Diwydiant ail-agor i'r cyhoedd ym 1976, dywedodd pobl iddyn nhw weld glaw o gymylau oedd wedi ymffurfio yn y rotwnda ganolog

Ffigur 6 Yn ôl y dadansoddiad, roedd y glaw'n doddiant o halwyni gwrthsefyll tân o'r paneli pren haenog sy'n cynnal y to. Sylwedd o'r un dosbarth â gypswm yw koktait, gyda'r fformiwla gemegol (NH4)2Ca(SO4)2·H2O.

Ffigur 7 Mae'r ffaith fod awyr gynnes yn codi yn helpu balwnau i hedfan ac yn fodd i awyru adeiladau. Yn y gaeaf, mae awyr laith gynnes yn codi yn yr ystafell uchel sy'n llenwi'r adeilad. Bydd yr awyr yma'n dianc drwy fân dyllau a chraciau yn y to, gan roi lle i awyr gynnes s'n dod i mewn drwy'r drysau.

Ffigur 8 Mae'r to wedi'i wneud o lawer o flychau rhagsaernïedig. Mae'r brig a'r gwaelod o bren haenog, a'r deunydd inswleiddio'n ffeibr gwydr. Mae dalen bolyester dros y pren haenog ar y gwaelod er mwyn atal awyr rhag mynd drwodd. Mae'r haen allanol o stribedi copr, wedi'u gorchuddio â phlwm a chydag uniadau crychiog. Mae awyr gynnes yn treiddio i'r adeiladwaith yma drwy'r craciau dirifedi. Yn ystod y gaeaf, bydd yr halwyni hygrosgopig ar gyfer gwrthsefyll tân yn helpu anwedd i gronni ar wyneb is y pren plyg ar y brig.

Ffigur 9 Bydd yr haul yn ystod yr haf cynnar yn cynhesu wyneb plwm llwyd tywyll y to i dua 80ºC. Bydd anwedd d?r yn distyllu i lawr i wyneb cymharol glaear y ddalen bolyester, lle mae'n cyddwyso, yn diferu i lawr, ac yn dianc yn y diwedd drwy graciau ym mhaneli'r nenfwd.

Ffigur 10 Dyma ddiagram meintiol o brosesau cyddwyso yn y gaeaf a distyllu yn yr haf. Mae'r llinell uchaf yn dangos cyfeiriad symudiad yr awyr. Bydd symudiad cyson ar i fyny yn ystod y gaeaf, gan droi'n sydyn i'r cyfeiriad arall ar ddechrau'r haf. Mae'r ail linell yn dangos y lleithder cymharol ychydig islaw'r panel pren haenog uchaf. Bydd y lleithder yn cynyddu'n gyson yn ystod y gaeaf, ond heb gyrraedd 100% gan fod yr halwyni gwrthsefyll tân yn amsugno d?r ar leithder cymharol is. Mae hyn yn rhagodi'r lleithder cymharol i rywle tua 80%. Bydd y to'n magu rhyw 30 tunnell o dd?r yn ystod y gwanwyn a'r haf cynnar. Yn ystod yr haf, mae'r d?r yn anweddu'n gyflym. Erbyn mis Awst bydd y to'n sych eto.

Ffigur 11 Dadansoddiad manwl o werth wythnos o ddata. Daeth hwn o synwyryddion wedi'u gosod yn nhrwch y to. Mae hyn yn dangos taw mewn cyfnodau byr bydd anwedd yn cyddwyso, pan fydd yr haul tanbaid yn twymo'r to. Mae'r cyfnodau yma i'w gweld yn y mannau du lle mae tymheredd a'r gwlithbwynt yn gorgyffwrdd. Mae sefydlogrwydd y to ar fin y gyllell. Mae'n debyg y byddai gostwng tymheredd, a lleithder cymharol, yr adeilad yn ystod y gaeaf yn fodd i atal glaw dan do yn ystod yr haf.

Ffigur 12 Dyma ddiagram sy'n crynhoi sut mae d?r yn cronni yn y to yn ystod y gaeaf, ac yn cael ei wagio i mewn i'r adeilad yn ystod yr haf. Mae'r cylchred yma wedi rhoi cryn straen ar y to ar ôl 30 o flynyddoedd. Bellach, mae cyflwr y to mor wael nes bod rhaid cau'r adeilad i'r cyhoedd.

Tebyg oedd profiad rhai fu'n cerdded dan Amgueddfa Gelf Hirshhorn, hefyd yn Washington. Mae Ffig. 13 yn dangos y broses, a Ffig. 14 yn ei hesbonio. Mae'r system aerdymheru i fod i weithio heb i aer o'r tu allan darfu arni. Gan hynny, mae'r aer yn yr adeilad dan wasgedd. O ganlyniad i hyn, bydd peth o'r aer y tu fewn yn dianc i'r awyr agored.

Ffigur 13 Gweithwyr swyddfa'n mynd heibio yng nghysgod anferthol Amgueddfa Hirshhorn, Washington DC. Prin fod neb yn breuddwydio y gallai iâ ddisgyn arnyn nhw!

Ffigur 14 Sut mae Amgueddfa Hirshhorn yn gwneud iâ. Mae awyr laith dan wasgedd tu fewn yn gollwng o'r adeilad. Mae'i chynnwys d?r yn rhewi ar wyneb mewnol croen oer allanol y wal. Mae'r haul yn codi, yn cynhesu'r concrid, a thoddi'r iâ. Mae'r dŵr yn dianc drwy dyllau draenio i'r awyr agored, lle mae'r lleithder cymharol yn is. Un o ganlyniadau anweddu yw gostwng tymheredd, ac mae'r gwynt chwim yn mynd â mwy o wres. Bydd yr anwedd yn rhewi, nes i wres yr haul doddi'r iâ lle mae'n cyffwrdd â'r wal. A dyma dalpau mawr o iâ'n tasgu ar y palmant islaw!

Cafodd yr adeiladau yma'u codi, neu'u hadfer, ar ôl 1950. Erbyn hyn, mae penseiri a'u peirianwyr yn deall yn llawer gwell sut mae'r pethau hyn yn peryglu adeiladwaith adeiladau. Bydd dyluniad adeiladau'n llawer mwy gofalus – hyd yn oed gyda chymorth gwyddonwyr cadwraeth! Mae Ffig. 15 yn dangos Oriel Genedlaethol Canada, Ottawa, a agorodd ym 1988. Daw goleuni i'r lloriau isaf drwy ffynhonnau goleuo eithaf cymhleth. Gan fod hinsawdd y gaeaf mor ddifrifol o oer, roedd y mesurau i gadw anwedd rhag cyddwyso yn y ffynhonnau bron â mynd i eithafion. Yn anffodus, mae'r anwedd yn cronni tua'r gwaelod – fel y gwelwch chi yn Ffig. 16. Sylwch ar y bwced tu ôl i'r bobl sy'n gwrando ar y pensaer yn canu clodydd ei adeilad gwych.

Ffigur 15 Oriel Genedlaethol Canada, a agorodd ym 1988. Moshe Safdie yw'r pensaer. Daw goleuni i'r lloriau isaf drwy ffynhonnau goleuo. Er gwaetha'r mesurau cywrain er mwyn selio'r ffenestri to cymhleth, mae aer yn dal i ddianc a'r anweddu ynddi'n cyddwyso.

Ffigur 16 Grŵp o aelodau cynhadledd 1994 y Sefydliad Rhyngwladol er Cadwraeth Gweithiau Hanesyddol ac Artistig ar gadwraeth ataliol. Mae un o'r tîm o benseiri a ddyluniodd Oriel Genedlaethol Canada yn eu hannerch. Mae anwedd yn cyddwyso ac yn diferu i'r bwced yn y mwrllwch i'r dde.

Ydyn ni, bobl yr 21ain ganrif, yn gallu gwneud yn well? Does dim dal, a dweud y gwir. Mae dwy duedd yn arbennig yn llesteirio'r gwaith o greu hinsawdd dda yn yr amgueddfa sy'n llesol i'r adeilad hefyd. Y ffasiwn ymhlith penseiri am adeiladau o wneuthuriad ysgafn yw'r gyntaf. A'r ail yw awydd naturiol penseiri – a'u noddwyr – i wneud yr adeilad ei hun yn gelfyddydwaith gwreiddiol a rhyfeddol. Mae Ffig. 17 yn dangos y ‘Diemwnt Du', yr estyniad i Lyfrgell Frenhinol Denmarc a gafodd ei godi ym 1999. O edrych ar y Diemwnt, byddai rhywun yn meddwl ei fod yn dalp o wenithfaen. Ond allai wal ar y fath oleddf byth sefyll oni bai'i bod yn eithaf ysgafn. Erbyn hyn, mae'r wal ar oleddf yn elfen safonol mewn pensaernïaeth gyfoes. Mae wyneb copr wal Canolfan y Mileniwm, Caerdydd (Ffig. 18) yn enghraifft dda o hyn.

Ffigur 17 Yr Estyniad i'r Llyfrgell Frenhinol, København, a agorodd 1999. Mae'r welydd goleddfol wedi'u gorchuddio â haen o wenithfaen du o Zimbabwe, gyda llawer o'r wal o wydr.

Ffigur 18 Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, 2004. The Millennium Centre, Cardiff, Wales, 2004. Percy Thomas, Penseiri, Cynllunwyr a Dylunwyr.

Er hyn i gyd does dim gwadu gymaint o fantais yw welydd sylweddol wrth gadw'r tymheredd a'r lleithder cymharol yn sefydlog. Mae llawer o amrywiad lleithder cymharol yr awyr agored yn deillio o gylchred dyddiol y tymheredd. Tua 60% fydd y lleithder cymharol yn ystod y dydd, ond fe all godi hyd at 100% pan ddaw'r gwaith gyda'r nos. Does fawr o amrywio o gwbl yng nghynnwys dŵr yr aer fel y cyfryw. Os bydd digon o inertia thermol gyda'r welydd i ragodi'r gylchred ddyddiol, bydd y lleithder cymharol yn sefydlogi o ganlyniad i hynny, heb help dyfeisiau peiriannol. Os yw'r welydd yn fandyllog, byddan nhw'n gallu amsugno a datsugno anwedd dŵr a llygrynnau. Bydd hyn yn gwneud yr hinsawdd yn fwy sefydlog byth. Dros y tymor hir, bydd modd cadw'r hinsawdd yn sefydlog heb awyru oni bai fod cynnwys dŵr yr aer y tu allan yn ddigon i godi'r lleithder cymharol y tu fewn i'r gwerth a ddymunir.

Gadewch inni ystyried posibiliadau'r technegau adeiladu hyn mewn adeiladau lle mae'r ymarferol yn drech na'r rhodresgar. Ymddiheuraf fod f'enghraifft gyntaf, Castell Segovia yn Sbaen (Ffig. 19), yn adeilad nodedig o rodresgar. Byddai mawrion gwlad ers talwm yn datgan eu bri drwy godi adeiladau o waith hynod drwm a phwysfawr. O ganlyniad i hyn mae gan seler yr adeilad yma (Ffig. 20) amgylchedd naturiol addas iawn ar gyfer cadwraeth (Ffig. 21). Er bod y lleithder cymharol ychydig yn rhy uchel i'w dderbyn gan y rhan fwyaf o archifwyr, mae hinsawdd yr archif yn sefydlog iawn.

Ffigur 19 Castell Segovia. Cafodd y rhan fwyaf ei chodi yn y 16eg ganrif, er y bu ailadeiladu helaeth yn dilyn tân ym 1862. Mae'r archif milwrol tu ôl i'r rhes ffenestri isaf.

Ffigur 20 Yr archif milwrol yng Nghastell Segovia, tu ôl i welydd trwchus. Mae 13 metr o garreg galch yn ddigon i glustogi'r archif rhag amrywiadau tymheredd. Daw goleuni i'r ystafell drwy ffenestri bach yn y wal (ychydig yn llai trwchus) ar y dde. (Llun gan Victoria Smith.

Ffigur 21 Hinsawdd yr archif dros gyfnod o 3 mis. Sylwch sut mae'r lleithder yn gostwng ychydig bob dydd tua phwynt A, am fod yr archifydd yn agor y ffenestri yn ystod y dydd. Mae rhagor o anwedd d?r yn yr awyr tua phwynt B yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac mae agor y ffenestri'n codi lleithder cymharol yr archif. Fe allai cyfuniad o synwyryddion a chyfrifiadur gyfrifo pryd yn gywir i agor y ffenestri. Byddai hyn yn fodd i ostwng lefel gyfartalog y lleithder gymharol, ac i gadw'r lleithder cymharol rhag amrywio gymaint.

Mae archif ym mhrifddinas Denmarc (Ffig. 22 – 24) yn dangos un strategaeth ar gyfer lleihau'r lleithder cymharol heb aerdymheru. Mae'r archif yma'n derbyn gwres o'r swyddfeydd oddi amgylch, ac yn colli gwres i'r awyr agored. Bydd lefel y gwres tua hanner ffordd rhwng y tymheredd tu fewn a'r tymheredd tu allan. Er bod y tymheredd blynyddol cyfartalog yn rhy isel i fod yn gyffyrddus i bobl, bydd yn arafu dirywiad cemegol y deunyddiau yn yr archif.

Ffigur 22 Mae casgliad Arnas Magnæus o lawysgrifau cynnar Llychlyn yn y gofod diffenestr tu ôl i ffasâd yr adeilad yma ym Mhrifysgol København. KHRAS Arkitekter 2004.

Ffigur 23 Croesdoriad o'r archif. Ar y tu fewn mae haen 50mm o sment arbennig sy'n amsugno dŵr. Mae hwn wedi'i orchuddio â chot sengl o baent silicad mandyllog. Mae'r blwch concrid dur sylweddol wedi'i ddylunio i wrthsefyll disgyn i'r llawr, ac mae'n clustogi amrywiadau tymheredd hefyd. Nodwedd anghyffredin yw bod deunydd inswleiddio'r blwch concrid yn fwy trwchus tuag ochr fewnol yr adeilad na thua'r ochr allanol. O ganlyniad i hynny mae tymheredd yr ystafell yn tueddu i aros tua hanner ffordd rhwng tymheredd eithaf cyson rhannau poblog yr adeilad, a chylchred blynyddol y tymheredd tu allan.

Ffigur 24 Hinsawdd sefydlog iawn sydd yn yr archif. Cofnodir y crynodiad o garbon deuocsid ar ffurf olin ‘dannedd llif'. Mae modd defnyddio hyn i wirio bod cyfradd gyfnewid aer yr archif yn dal ar y gwerth a gynllunnir, sef tuag un cyfnewidiad aer bob dydd. Dim ond er mwyn symud y lleithder tua'r lleithder cymharol (sy'n amrywio ychydig rhwng y gaeaf o'r haf) bydd y synwyryddion tu fewn a thu allan i'r ystafell yn caniatáu i'r cyfrifiadur rheoli bwmpio aer i'r ystafell.

Mae angen newid systemau rheoli hinsawdd casgliadau hanesyddol i ddefnyddio ychydig iawn o ynni, neu ddim o gwbl. Dim ond dechrau mae'r gwaith. Yn yr archif ym mhrifddinas Denmarc, mae arbenigwyr wedi amcangyfrif bod modd gostwng tymheredd yr archif i 7°, sef tymheredd blynyddol cyfartalog København. Ond mae angen cadw'r lleithder cymharol tu fewn yn llawer is na lleithder cymharol y ddinas, sef 85%. Bydd gofyn am weithio'r offer aerdymheru yn y gaeaf, a gadael i ddeunyddiau amsugnol ragodi lleithder cymharol yr archif yn ystod yr haf.

Mewn gofodau arddangos cyhoeddus, rhaid i'r offer awyru weithio ar ddigon o raddfa i symud cemegolion drewllyd ac i bobl gael anadlu. Bydd hyn yn ormod o straen ar allu rhagodi amsugnyddion gwres a lleithder syml. Gan hynny, bydd angen datblygu amsugnyddion troellfaol i ragodi gwres a lleithder. Mae ar benseiri a ffisegwyr angen fframwaith safonau a rhaglenni cyfrifiadurol pwrpasol i greu systemau rheoli hinsawdd â chymorth peiriannau. Nawr mae ffisegwyr adeiladu'n dechrau llunio'r safonau a'r rhaglenni angenrheidiol, ond maes o law bydd modd symud ymlaen at systemau rheoli hinsawdd yn oddefol. Mae mantais ychwanegol gyda'r dull yma o ddylunio. Os bydd adeilad heb fod angen aerdymheru, fydd dim perygl o ddifrod i'r adeiladwaith gan anwedd.