Amgueddfa Decstilau'r Drenewydd: Bydd yn rhaid i chi wisgo dillad gwlanog??
Rhagarweiniad
Mewn ffatri nodweddiadol o'r 19eg ganrif mae cartref Amgueddfa Decstilau'r Drenewydd. Eva Bredsdorff, Uwch Guradur amgueddfeydd Maldwyn, sy'n ei rheoli. Gan fod yr Amgueddfa'n adeilad rhestredig Gradd 2, rhaid cael caniatâd Cadw cyn dechrau gwaith arno. Roedd ffabrig yr adeilad mewn cyflwr gwael, oedd yn achosi problemau sylweddol tan y gwelliannau diweddar. Roedd problemau'n codi hefyd gan fod tri thenant yn byw yn y bythynnod oedd wedi'u cysylltu âr ffattri . Fe lwyddodd Cyngor Sir Powys i adnewyddu'r adeilad a meddianau'r bythynnoll rhwng 1995 a 2003, gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Cafodd y safle cyfan ei datblygu'n amgueddfa, sy'n cynnwys rhes o dri bwthyn deulawr gyda dau lawr o weithdai gwehyddu uwchben.
Asesiad amgylcheddol
Cefais wahoddiad yn 2003 i argymell strategaeth ar reoli'r amgylchedd. Roedd y gwaith pwysicaf ar y tu allan wedi'u cwblhau erbyn yr adeg honno, ond roedd y gwaith ar y tu fewn heb ddechrau eto. Dyma'r problemau ynglŷn â rheoli amgylcheddol:
- Doedd neb yn gwybod beth fyddai'r amodau amgylcheddol yn yr adeilad ar ôl ei adnewyddu.
- Rhaid dyrannu'r gyllideb ar gyfer monitro a rheoli'r amgylchedd ar yr un pryd.
- Am ran yn unig o'r flwyddyn bydd y safle ar agor gyda staff yn gweithio yno.
- Mae'r curadur yn gweithio o safle arall, 20 munud i ffwrdd mewn car.
- Mae llawer o elfennau hanesyddol yr adeilad wedi goroesi, a rhaid eu cadw.
- Doedd dim modd cerdded drwy'r adeilad cyfan heb fynd allan o un drws, croesi iard, a mynd i mewn i ddrws arall.
- Roedd yr Amgueddfa'n bwriadau benthyca casgliadau gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn gorfod talu cost y gofynion indemniad angenrheidiol.
- Mae pedwar gwŷdd i'w harddangos yn yr orielau gweithdy.
- Isel iawn yw cyllideb refeniw'r Amgueddfa.
Mesurau goddefol
Cyn adnewyddu'r Amgueddfa, eithaf llaith ac oer oedd yr amodau amgylcheddol yno. Bu pryfed yn heidio yno o dro i dro, ac roedd olion difrod i'w gweld ar eitemau. A chan fod yr adeilad yn un ‘anaddas', dyma'r camau cyntaf gymeron ni tuag at sefydlogi'r amgylchedd tu fewn:
- Gwella'r inswleiddio,
- Atal cymaint o aer rhag gollwng,
- Darparu atalfeydd ychwanegol, megis drysau mewnol, neu lobïau.
Doedd dim modd inni wneud cymaint ag yr hoffem ni o'r gwaith yma, gan mai adeilad rhestredig y doedd. Roedd yr angen i arddangos eitemau'n cyfyngu ar y gwaith hefyd. Ond fe ddaethon ni i ben â gosod lobïau wrth waelod y tyllau grisiau i fyny i'r gweithdai gwehyddu, seliau brwsh ar ddrysau allanol, ac ychydig o lenni eithaf sylfaenol.
Rheoli amgylcheddol
Nid brwydro â'r amodau amgylcheddol naturiol oedd amcan y mesurau rheoli amgylcheddol. Eu cadw rhag mynd yn ormod oedd y nod. Wrth osod cyfarpar, rhaid peidio ag ymyrryd gormod â ffabrig yr adeilad. Rhaid iddo fod yn hawdd ei weithredu hefyd. Dilynon ni egwyddorion gwresogi cadwraeth [1], a gosod set o nodau amgylcheddol, yn nhrefn eu blaenoriaeth.
Dewis cyfarpar
Gofynnai'r fanyleb am reiddiaduron wedi'u llenwi ag olew, gyda switshis gwarchod rhag rhew, ac amseryddion. Pryderai penseiri'r prosiect y byddai gwresogyddion trydan yn annigonol, ond fe gytunon nhw i beidio â gosod rheiddiaduron. Byddai'u heffaith ar yr adeilad yn rhy drwm, doedd yr adeilad ddim yn cael ei ddefnyddio gydol y flwyddyn, ac roedd perygl damweiniau difrifol
Gosodon ni ddadleithyddion er mwyn lleihau'r lleithder cymharol yn yr haf. Byddai hyn yn ategu'r mesurau gwresogi cadwraeth. Roedd nifer o bwyntiau draenio yn yr adeilad, yn ffodus, gan i bobl fod yn byw yno o'r blaen. Prynon ni ychydig o ddadleithyddion hefyd rhag i'r lle fynd yn rhy sych.
Manyleb rhy drwm?
 ninnau'n cynllunio i reoli amgylchedd na wyddon ni fawr ddim amdano eto, mae'n demtasiwn i brynu cyfarpar mwy pŵerus nag sydd eisiau. Byddwn ni'n fwy hyderus fod y cyfarpar yn perfformio'n ôl y gofyn, ac yn fodd inni reoli'r amgylchedd os bydd yr amodau ar y safle'n dirywio. Fydd yr arian ddim ar gael eto, ac mae'n demtasiwn felly i roi offer drud yn y fanyleb. Ond, os gwariwn ni ormod ar y cyfarpar, bydd llai o arian mewn cyllidebau eraill. Mae cyfarpar pŵerus yn fwy o ran maint, ac yn tarfu'n fwy ar y lle. Mae'n bosibl y bydd ei ymateb i wahanol amodau amgylcheddol yn rhy gryf, a gall hyn sbarduno newidiadau sydyn yn yr hinsawdd. Yn y diwedd, ildion ni ddim i'r demtasiwn i ofyn am gyfarpar rhy bŵerus. Gofynnon ni am yr union cyfarpar roedden ni'n meddwl bod ei angen.
Roedd angen canolbwyntio'n hanghenion lle roedd eu hangen mwyaf, ac fe gytunon ni ar ychydig o amodau amgylcheddol at y diben yma. Dyma nhw, yn nhrefn blaenoriaeth.
- Yr amodau gorau: ar gyfer y casgliadau.
- Amodau ail lefel: gyfer cysur pobl.
- Amodau trydedd lefel: ar gyfer arddangosfeydd yn y gweithdai.
Gosodon ni'r amodau gorau ar gyfer storfeydd ac ar gyfer ystafelloedd lle roedd casgliadau benthyg. Lleithder cymharol o 50 – 60% drwy gydol y flwyddyn oedd y nod. Gan fod cyfarpar gwresogi cadwraeth yn tueddu i gynnal tymheredd ryw 6oC uwchben yr un y tu allan, tuedd y mannau yma yw mynd yn glaear yn ystod y gaeaf. Wrth arddangos casgliadau benthyg, rhaid ystyried hyn i gyfrif yn ogystal â chydymffurfio â gofynion diogeledd. Yr ateb i hyn oedd arddangos y casgliadau mewn ystafell gaeëdig, gyda'r ymwelwyr yn edrych i mewn drwy ffenestr. Yr un cyfarpar oedd gyda rhai arddangosfeydd eraill, ond mewn ystafelloedd agored. Fyddai dim modd rheoli'r amodau amgylcheddol mwy manwl, ond roedd rhan fwya'r casgliadau mewn casys, gydag offer ychwanegol er mwyn clustogi'r effeithiau.
Cafodd yr amodau ail lefel eu gosod ar gyfer cysur pobl, gyda'r effaith leiaf bosibl ar y casgliadau. Dim ond pan fydd pobl yn yr adeilad fydd angen cynnal yr amodau yma mewn mannau fel y cylch croeso neu'r ystafell astudio. Gosodon ni'r gwresogyddion i godi'r tymheredd yn raddol cyn i'r staff gyrraedd. Mae modd gosod y cyfarpar gwarchod rhag rhew, a dod â chyfarpar lleithio ychwanegol i mewn, er mwyn cadw'r tymheredd a lleithder rhag mynd i eithafion.
Cafodd yr amodau trydedd lefel eu gosod ar gyfer yr arddangosfeydd yn y gweithdy. Byddai cynnal rheoli amgylcheddol gydol y flwyddyn yn gostus, ac yn tarfu ar bawb. Hwyrach na fyddai dim modd ei wneud fodd bynnag. Roedd ein targedau ar gyfer yr arddangosfa wehyddu ar y trydydd llawr yn eithaf uchelgeisiol, sef tymheredd o 5-19 oC, a lleithder gydol y flwyddyn, er mwyn cadw'r amgylchedd rhag mynd i eithafion. Roedd mwy o broblem gyda'r llawr uchaf, ac felly fe benderfynon ni bacio'r holl gasgliadau lliw, mwy sensitif, a'u dodi i'w cadw mewn storfa dros y gaeaf.
Cyfarpar monitro
Gosodon ni system fonitro electronig, gyda modem i'w chysylltu â chyfrifiadur yn swyddfa'r Curadur Sirol. Mae gan staff y dderbynfa hefyd offer sy'n dangos yr amodau amgylcheddol mewn amser real.
Sut aeth hi?
Aeth rhai pethau'n dda, ac eraill yn wael – fel ym mhob prosiect. Ar yr ochr ffafriol, fe gytunodd y penseiri sirol ar gynllun eithaf anghyffredin yn eu golwg nhw, a derbyn yn y diwedd ei fod yn un doeth. Rhyddhaodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn arian, a rhoes yr Amgueddfa Genedlaethol inni eitemau o'u casgliadau nhw. Does neb wedi cwyno am y tymheredd.
Roedd rhyw broblemau o hyd wrth gasglu data o'r system fonitro. Fe fu problemau gyda'r modem, a doedd gwahanol systemau technegol gwybodaeth ddim yn cydweddu bob tro. Doedd dim llawer o hyder gyda'r staff wrth ddefnyddio'r system, ac aeth tipyn o ddata ar goll. Pan fethai'r cyfarpar monitro o bell, byddden ni'n methu sylwi ar nifer o broblemau – batri'n disbyddu mewn monitor, trydanwyr yn diffodd yr holl gyfarpar, ayyb. Doedd gyda'r staff ddim digon o hyder i ddehongli beth ddarllenon nhw o'r system a gwneud rhyw fân addasiadau wrth iddyn nhw ddod i arfer â hi. Y dadleithydd ar y trydydd llawr oedd yn peri'r diflastod mwyaf, yn llenwi gormod o le ac yn cadw sŵn.
Y dyfodol
Mae llawer o rinweddau gyda'r drefn yma, ond fe gymerodd gryn amser i ddod i fwcl – yn enwedig gan fod diffyg data cyson. Mae hi'n demtasiwn i symud cyfarpar, neu newid fel mae hwnnw wedi'i osod, heb fod yn hollol sicr beth sy'n digwydd. Ond rwy'n hyderus y cawn atebion i'r holl broblemau yma. Bydd modd inni lunio'n penderfyniadau ni ar sail gwybodaeth unwaith yn rhagor.
Diolch – fel arfer – i Eva Bredsdorf, Uwch Guradur Amgueddfa. Bydd hi'n awyddus i weithio'n unol â'r ymarfer gorau mewn amgylchiadau anodd, ac mae dawn ryfeddaf gyda hi i berswadio pobl i wneud beth mae hi'n gofyn iddyn nhw'i wneud.
[1]Bullock, L. Hayes, B. Staniforth, S and Singleton, A., (1997) ‘Conservation Heating by Cable and Radio, National Trust Houses' Museum Practice 4 Museums Association, Llundain 71-74
|
 |