Tim Padfield
Jane Brunning
Jonathan Ashley-Smith
RE Child
Gerallt D Nash
Heather Perry
Jane Henderson

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe: Trafferthion cychwynnol a datrysiadau

Cafodd yr Amgueddfa Diwydiant a Môr yng Nghaerdydd ei dymchwel, ond bellach mae gyda ni Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn ei lle. Agorodd y safle newydd yma ar gei Abertawe yn 2005. Mae'n cynnwys adeilad Fictoraidd fu'n gartref i adran diwydiant a môr Amgueddfa Abertawe, gydag adeilad newydd sbon ynghlwm ag ef. Gorchwyl y pensaer oedd asio'r hen a'r newydd, gan greu amgueddfa deilwng o'n hoes ni lle bydd amrywiaeth eang o gasgliadau i'w gweld.

Dyma'r problemau ynghylch cadwraeth a ragwelai'r staff:

  • Amser i baratoi'r casgliadau i'w harddangos
  • Mowntiau a chasys o safon addas ar gyfer arddangos.
  • Yr amodau amgylcheddol cywir

Roedd angen newid rhywbeth neu'i gilydd byth a hefyd, fel sy'n arferol gyda mentrau mor anferthol. Byddai rhywun yn penderfynu arddangos eitem newydd yn lle'r un gytunon ni arni, neu hwyrach y byddai gormod i'w harddangos yn cael eu dewis, er mwyn gwneud penderfyniad terfynol maes o law. Roedd nifer anhygoel o wrthrychau i'w dangos, oedd yn gwneud cynllunio rhaglen gadwraeth yn anodd. Newidiai'r dyddiad agor o hyd, gan ei gwneud mis anodd creu cynlluniau pendant.

Contractwyr o'r tu allan oedd wedi gwneud y mowntiau gwreiddiol, o luniau a mesuriadau. Nhw fu'n gyfrifol am fowntio'r eitemau hefyd. Wedyn fe dreulion nhw amser ar y safle gyda'r casgliadau, a chael gwaith gosod yr arddangosion i fwcl. Peth difyr oedd bod rhai o'r mowntiau'n ffitio gystal fel eu bod nhw wedi glynu wrth y gwrthrychau. Syrthiodd ambell wrthrych drwy'i fownt, gan fynd yn sych a chrebachu.

Daeth rhai o'r casys arddangos o gwmni parchus, wedi'u harchebu wrth ein mesuriadau ni. Roedd eraill wedi'u dylunio'n unol â'n manyleb ni at ddibenion penodol yr amgueddfa. Cafwyd nifer o broblemau i ddechrau – bylchau heb gael eu selio'n drylwyr, sleidiau gwydr ar ogwydd, wynebau pren heb gael eu selio i gadw nwyon rhag dianc, ayyb. Fe ddaethon ni i ben â hyn i gyd, er bod ambell i broblem yn parhau. Mae goleuadau'r casys yn eu twymo tu fewn, sy'n peri i'r tymheredd a'r lleithder cymharol amrywio bob dydd. Roedd cysylltiad rhwng y problemau hyn ac allbwn y taflunyddion ffeibr optig dan y casys arddangos. Fe roeson ni gynnig ar nifer o wahanol ffyrdd o gyfyngu ar drosglwyddiad y gwres. Rhai o'r rhain oedd ychwanegu at y deunydd inswleiddio, gosod ffaniau awyru, a gosod lampau watedd is. Mae'r camau yma wedi llwyddo, i raddan helaeth, i gyfyngu'r amrywiadau o fewn terfynau'r dyluniad gwreiddiol. Lle mae ambell i broblem yn dal i flino, rydyn ni am newid y system oleuo i ddeuodau allyrru golau oer.

Mae'r adeilad ei hun wedi profi'r problemau cychwynnol arferol. Roedden ni wedi gobeithio cael mis o leiaf er mwyn gwerthuso'r systemau aerdymheru, goleuo casys, ayyb. Fe gawson ni'n siomi yn hyn o beth, ac aeth nifer o wrthrychau i mewn yn rhy gynnar. Roedd raid eu tynnu allan eto nes inni ddelio â'r man wallau.

Mae'r amgueddfa ar agor ers naw mis bellach, ac mae'r cyhoedd yn ei hoffi'n fawr iawn. Rydyn ni eisoes yn paratoi i adnewyddu'r arddangosfeydd am y tro cyntaf erioed, ac i werthuso cyflwr y gwrthrychau. Bydd hyn yn fodd inni ddatblygu amserlenni realistig ar gyfer glanhau a chynnal a chadw, ac yn gyfle i newid yr eitemau arddangos. Does dim esgus bellach am gloi rhywbeth mewn câs am ugain mlynedd a'i anghofio.