Archifdy Sir Ddinbych: traethawd ar bragmatiaeth
Edrychwn ar Garchar Rhuthun. Cafodd y carchar cyntaf ei godi ar y safle ryw dro yn yr 16eg, gannif mae'n debyg. Mae'r adeilad hynaf sy'n dal i sefyll yno'n dyddio'n yn ôl i 1775. Cafodd y rhan ddiweddaraf ei chodi ym 1866, ac yno mae'r archifau'n cael eu storio gan fwyaf. Carchar Pentonville oedd patrwm y bloc yno, yn cynnwys y syniadau diweddaraf yr adeg honno am sut i ddylunio carchardai. Yn yr adain lai, lle câi merched eu carcharu, mae'r silffoedd ar gyfer eitemau o faint eithriadol. Caewyd y carchar ym 1916, ac mae'r adeiladau wedi cyflawni sawl pwrpas oddi ar hynny - fflatiau i blismyn, ffatri arfau yn ystod yr 2ail Ryfel Byd, a swyddfeydd a storfeydd i'r Cyngor Sir.
Cafodd Swyddfa Cofnodion Sir Ddinbych ei hagor ar y safle ym 1972, a daeth yn rhan o Swyddfa Cofnodion Clwyd. Ym 1996, daeth y safle'n eiddo i'r Sir Ddinbych newydd, sy'n cynnwys tiriogaeth braidd yn wahanol i'r hen sir cyn 1974.
Roedd y Sir Ddinbych newydd wedi etifeddu dyledion eithaf sylweddol gan un o'i hawdurdodau rhagflaenol. Gan hynny, doedd dim modd iddi wario llawer yn ystod tair blynedd gyntaf ei bodolaeth. Doedd dim arian cyfalaf ar gael, a chan hynny doedd dim modd cael arian cyfatebol ar gyfer grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Roedd addasu neu wella'r adeiladau'n amhosibl am y tro. Yn ffodus, cafodd cyllido cyfalaf ei adfer yn 1998, mewn digon o amser i wneud ceisio am arian ar gyfer Carchar Rhuthun yn ymarferol.
Yn ôl y farn gyffredin, dyma oedd asedion y prosiect:
- Casgliadau archif helaeth ar gyfer yr hen Sir Ddinbych.
- Yr adeiladau, a'r safle'i hun. Roedd ychwanegu at y mynedfeydd a'r muriau allanol o dro i dro, a chwalu rhan o'r porth, wedi difetha golwg y safle. Ar un adeg, safai adeilad llyfrgell parod yng nghanol y cwrt. Er i hwnnw gael ei ddymchwel, roedd y creithiau'n dal i'w gweld ar y llawr. Symud pob adeiledd afraid oedd y bwriad bellach, gan adfer cymaint â phosibl o'r safle i'w gyflwr yn oes Fictoria.
- Roedd posibiliadau mawr gyda'r adeilad mawr o1866, gyda'i olwg trawiadol. Roedd angen symud nifer o ychwanegiadau hyll, a chael gwared â'r lloriau a aeth i mewn pan oedd y lle'n ffatri arfau. Byddai hyn yn agor yr atriwm canolog, gyda chyfle i adfer y rhodfeydd, gyda'u cledrau haearn nodedig. Penderfyniad arall oedd symud llawr gwreiddiol yr atig, oedd bellach yn anniogel. Byddai hyn yn rhoi cyfle i osod ffenestri yn y to. Byddai'r rhain yn gadael mwy o oleuni i mewn i'r adeilad, ac yn gadael i fwg ddianc pe bai tân.
- Gan fod y welydd mor drwchus a'r ffenestri mor fach, mae màs thermol yr adeilad yn uchel iawn. Mae hyn yn fodd i gadw cyfnewid gwres i'r lleiaf posibl. Roedd y cwndidau gwreiddiol yn dal yno, a gallai'r rhain gynnwys pibellau'r system rheoli amgylchedd. Dyna gyfle felly i'r peirianwyr gwresogi a'r penseiri gydymffurfio â safon cadw archifau BS5454 heb orfod difwyno'r atriwm canolog neu'r celloedd. Roedd lle i gyfarpar y system yn yr atigau ochr, allan o olwg pobl ar y llawr gwaelod.
Aeth y cais i'r Loteri ym 1998. Ym mis Mawrth 1999, rhoes y Loteri grant £1,300,000. Gyda hyn a'r arian cyfatebol o wahanol ffynonellau, roedd digon i dalu'r gost gyflawn, £3,000,000.
Roedd rynaid i gynllun gwella'r adeilad fodloni nifer o ofynion. Dyma nhw:
- Cydymffurfio â safon BS5454. Gofynnai'r cynllun am osod y system llif awyr yn yr hen gwndidau i mewn ac allan o bob cell. Ar bob llawr fe fyddai dau synhwyrydd wedi'u cysylltu â chyfrifiadur oedd i gymryd darlleniad yn rheolaidd. Pe bai angen, byddai'r system yn gallu addasu'r tymheredd a'r lleithder.
- Dau fonitor teledu cylch cyfyng i wylio'r ddwy fynedfa, un ar gyfer y dderbynfa ac yn yr ystafell chwilio gyhoeddus.
- System diffodd tân awtomatig, gyda synhwyrydd ar gyfer synhwyro gronynnau a gwres ym mhob cell ac ym mhob storfa ddogfennau. Mae'r system yma'n gweithio drwy ddod â chymysgedd arbennig o nwyon o silindrau a chyfarpar o dan y to. Mae'r cymysgedd, inergen, yn diffodd tanau trydan heb beryglu pobl.
- System diogeledd well, sy'n gwylio'r tu allan gydol yr amser.
- Datblygu llwybr treftadaeth yn ys islawr a rhan o'r llawr gwaelod. Byddai hyn yn fynegiant o hanes y carchar, ac yn darparu lle i weithgareddau rhyngweithredol gan grwpiau ysgol ac eraill.
Roedd rhai problemau'n rhy anodd i'w datrys. Ymhlith y rhain roedd mynediad, lleoedd cyfyng, a gwahanol ddefnyddiau yn yr un adeilad. Mae'n debyg nad oedd modd osgoi hyn wrth ail-ddefnyddio hen adeilad.
Roedd problemau gyda mynediad yn anochel, yn enwedig i rai mewn cadeiriau olwyn. Mae'r carchar ar sawl lefel, oedd yn gofyn am lifft rhwng y dderbynfa a'r ystafell chwilio gyhoeddus. Roedd peiriannau darllen microffilm wedi'u gosod mewn nifer o gelloedd ar y llawr gwaelod. Mae drysau'r rhain yn gul, ac mewn fframiau metel. Does dim modd eu hehangu o gwbl, ond rhaid oedd rhoi cyfle i bobl anabl ddefnyddio'r peiriannau. Yr ateb oedd symud rhai o'r peiriannau allan i'r man canolog. Roedd hyn yn groes i anogaeth y penseiri, a gredai fod hyn yn difwyno golwg y lle.
22 o gelloedd sydd ar bob llawr, a'r rheiny'n eithaf bach. Mae cynnal tymheredd a lleithder cyson ym mhob ystafell lawer anos na rheoli amgylchedd gofod mawr. A chan fod y celloedd mor fach, fydd y defnydd o'r silffoedd byth mor effeithlon ag mewn gofod mawr.
Pryder arall oedd bod gofyn i'r staff reoli dau fan hollol ar wahân, sef yr ystafell chwilio gyhoeddus, a'r dderbynfa. Yn ôl yr amcangyfrif, byddai angen dyblu nifer y bobl er mwyn cynnal yr un lefelau staffio. Wrth reswm, doedd dim cyllideb ar gyfer ychwaneg o swyddi.
Gan fod y llwybr treftadaeth ar wahân i'r archifau, roedd problemau'n codi o'r angen i gadw dau fath o ymwelwyr ar wahân. Mae dau fesur i ateb y problemau yma. I ddechrau, roedd raid cloi dau ddrws mynediad. Yn ail, roedd angen gosod bysellbad soffistigedig yn y lifftiau sy'n teithio rhwng yr islawr a'r ail lawr.
Dydy'r atebion yma ddim yn berffaith. Ond, diolch i grant Cronfa Treftadaeth y Loteri, roedd modd inni wella'r Swyddfa Gofnodion yn sylweddol, a datblygu'r Llwybr Treftadaeth. Bydd y Llwybr yn rhoi profiad i'r rhai sy'n ei droedio o awyrgylch a nodweddion diddorol y carchar hanesyddol yma, yr unig un o'i fath sydd ddim yn dal i weithio fel carchar.
I gloi:
- O ganlyniad i grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri, mae system rheoli amgylchedd llawer mwy modern gyda'r adeilad. Er hyn mae rhai o'r problemau'n dal gyda ni. Ar adegau, mae amrywio'r tymheredd a'r lleithder yn cyrraedd eithafion annerbyniol.
- Mae'r systemau teledu cylch cyfyng, diogeledd, a chanfod tanau, yn gweithio'n dda iawn. Maen nhw'n llawer gwell na'r systemau oedd gyda ni o'r blaen.
- Dal i ddod i law mae deunyddiau archif. Er bod y silffoedd newydd mewn lle braidd yn gyfyng, bydd digon o le arnyn nhw i ddeunyddiau newydd am rai blynyddoedd i ddod
- Mae'r Llwybr Treftadaeth wedi denu pobl newydd i'r adeilad er bod dim diddordeb gyda nhw yn yr archifau.
- Mae darparu digon o staff i'r cylch croeso'n dal yn broblem, ond o leiaf dyma le ar wahân i bobl aros i ymweld â'r Swyddfa Gofnodion.
Mae'r fan newydd ar gyfer prosesu dogfennau wedi darparu lle ar gyfer gwahanu, glanhau, a didoli'r derbynion newydd.
|
 |