Tim Padfield
Jane Brunning
Jonathan Ashley-Smith
RE Child
Gerallt D Nash
Heather Perry
Jane Henderson

Meddwl Cyfredol ar Safonau Amgylcheddol

Rhagarweiniad

Mae'n debyg nad yw syniadau heddiw am safonau ar gyfer amodau amgylcheddol amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau yn wahanol iawn i syniadau ddoe. Mae'r holl wybodaeth berthnasol ar gael ers degawdau. Wedi mireinio'n dealltwriaeth mae'r gwaith diweddar, yn hytrach na'i chwyldroi. Ers i mi ddechrau ymddiddori yn y pwnc ryw 30 o flynyddoedd yn ôl, mae pob ymagwedd bosibl at yr wybodaeth yma wedi gweld golau dydd. Ffasiwn yw'r unig beth sy'n newid gyda'r oes, gyda gwybodaeth yn cael ei dethol a rhyw agwedd benodol yn cael ei phwysleisio. Yr awdur sy'n
rhoi'r pwyslais weithiau, ond, ar adegau, y darllenwyr sy'n pwysleisio rhywbeth heb yn wybod iddyn nhw.

Mae rhyw ddeuoliaeth gynhenid yn perthyn i safonau. Dyna sut mae ffasiwn yn gallu newid heb newid hanfodol yn y cyd-destun neu'r data perthnasol. Dau fath o bobl sydd, sef pobl sensitif a deallus (fel fi!)... a phobl eraill (fel chi!). Mae'r grŵp cyntaf yn ddigon atebol i dynnu'u casgliadau'u hun heb gael eu caethiwo gan ryw reolau pitw sy'n atal y ffordd i yfory gwell. Mae angen safonau ar yr ail grŵp er mwyn gwybod beth i'w wneud, a sut. Bydd y ffasiynau'n pendilio o hyd rhwng penrhyddid a chaethder, heb unrhyw duedd bendant dros y tymor hir.

Gweddnewid?

Mae angen ystyried y syniadaeth ddiweddaraf i weld golau dydd ym maes cadwraeth. Trown at yr anerchiadau ym 14eg Cyfarfod Teirblynyddol Pwyllgor Cadwraeth Cyngor Rhyngwladol yr Amgueddfeydd, yn yr Haag ym mis Medi 2005. Honnodd Rob Walker a Stefan Michalski [1] wrth draddodi'u papur nhw fod y dull gweithio ym maes cadwraeth yn cael ei weddnewid. Mae perygl i gadwraeth ataliol ddirywio'n ddim ond penderfyniad difeddwl i ddilyn patrymau parod yn brennaidd. ‘Cadwraeth ragfynegol' yw'r weledigaeth newydd sydd i fod i achub y dydd.

Yn y weledigaeth yma, mae pedwar pwynt terfyn amodau hinsawdd - 19°C, 21°C, lleithder cymharol 45%, lleithder cymharol 55% - yn ffurfio pedrongl sanctaidd ar y siart. Y bedrongl sanctaidd yma yw'r unig fan i hinsawdd pob amgueddfa neu archif. Mae cyfle gyda ni ar hyn o bryd i ystyried yr amodau hinsawdd sydd gyda ni ar hyn o bryd, ac yna rhagfynegi canlyniadau'r rhain i'n casgliadau ni dros y tymor hir. Mae'n bosibl y byddai'r deilliannau'n dderbyniol inni. Ond os ydyn nhw'n annerbyniol, fe allen ni ddewis amgylchedd arall lle bydden ni'n fwy hapus gyda'r deilliant a ragfynegir. Byddai modd inni wedyn gyfrifo a fyddai costau ariannol y gweddnewid, a'r effaith ar y casgliadau, yn dderbyniol.

Mae'r system yma'n rhoi gweithdrefnau deallus yn lle rhai difeddwl. Gosod safonau amgenach mae hi, nid ymosod ar safonau fel y cyfryw.

Mathau o safonau

Tua diwedd y Chwedegau, roedd fy rhieni a'm cydweithwyr yn fy nghyfrif yn rhyw fath o hipi. Rwy'n cofio tafarnwyr yn fy nhroi i ffwrdd nifer o weithiau am fod fy ngwallt yn rhy hir neu gan nad oedd gen i esgidiau sanau am fy nhraed. “Rhaid inni gynnal safonau.” oedd y diwn gron gawn i o hyd. Dyma Fath Safonau 1: “Na fydded iti fod yn annhebyg inni”.

Roedd safonau eraill i'w cael hefyd, diolch byth. Byddai rhyw dafarn yn fodlon gwerthu diod imi yn rhywle. Y fi fyddai'n gosod y safonau mewn tafarnau felly. Mynnwn gael sicrwydd, wrth imi ofyn am beint o gwrw, taw peint Seisnig o gwrw gawn ni a hwnnw o gynnwys alcohol penodedig. Doedd wiw i neb gynnig gwydryn yn hanner llawn o woblin, fel y gwna'r Cenhedloedd. Dyma Fath Safonau 2: “Na fydded i ti roi i mi ond yr hyn y gofynnaf amdano”.

Math 1 yw sylfaen meincnodi. Bydd y safonwyr yn gwylio mathau o ymddygiad ac ystyried rhai posibl, a'u dosbarthu a'u graddio. Bydd anogaeth ar bobl y graddau is i uwchraddio.

Math 2 sy'n hyrwyddo masnach a chyfathrebu, drwy sicrhau bod gwahanol grwpiau o bobl yn cael dealltwriaeth ddiamwys o'r geiriau a'r rhifau sy'n
berthnasol i wahanol weithgareddau, ac yn cael cyfle i weithredu'n unol â nhw. Mae tapiau mesur yn enghraifft o'r math yma o safon. Os defnyddia i dâp mesur i asesu maint fy nghanol, bydd modd i rywun yn Ynysoedd y Philipinas fesur faint yn union o ddenim i'w dorri. Os af i siop a gofyn am jîns yn fy maint i, byddaf yn cael pâr sy'n ffitio.

Mae Safonau Math 2 yn ddefnyddiol i bobl sydd am gael manylebau ailddefnyddiadwy. Ond mae perygl iddyn nhw ddod yn destun rheoleiddio diddiwedd.

Mewn egwyddor, dydy safonau ddim yn gwthio ewyllys yr ychydig ar y lliaws. Mae pawb i fod i elwa. Mae'r Sefydliad Safonau Prydeinig yn diffinio safoni fel:

"Sefydlu a chymhwyso set gytûn o atebion i'w cymhwyso yn fynych er mantais y budd-ddeiliaid, gan gadw cydbwysedd rhwng eu gwahanol fuddiannau."

Mewn egwyddor, mae angen consensws cyn y bydd modd cymhwyso safonau. Dyma sut mae'r Sefydliad Safoni Rhyngwladol yn diffinio safon ryngwladol fel:

"Dogfen wedi'i sefydlu drwy gonsensws ac wedi'i chymeradwyo gan gorff
cydnabyddedig, sy'n darparu rheolau, canllawiau, neu nodweddion i'w defnyddio'n gyffredin neu'n fynych ar gyfer gweithgareddau neu ddeilliannau'r rheiny, er mwyn sicrhau'r raddfa orau bosibl o drefn mewn cyd-destun penodol." [2]

Bydd angen dogfen, yn ffrwyth cytundeb rhwng y proffesiynolion perthnasol ac yn agored i bawb ei darllen. Y cyfeiriad at "gorff cydnabyddedig" yw'r maen tramgwydd ar gyfer safonau amgylcheddol i gadwraethwyr. Does yr un corff rhyngwladol, na chorff cenedlaethol sylweddol, erioed wedi paratoi na chymeradwyo unrhyw safonau perthnasol, er bod nifer o'r sefydliadau yma'n honni bod 'safonau' ymhlith eu prif flaenoriaethau.

Bydd rhywun yn dal mewn penbleth hyd yn oed o daeru bod safonau'n tarddu o gonsensws ac yn amlygu cytundeb. Ydy cytundeb yn fan cychwyn i reoleiddio di-dadl, ynteu i barhau â'r drafodaeth?

Ffasiynau mewn safonau

Dyma saith pâr o eiriau. Mae pob un yn amlygu ymagwedd at gynnwys priodol safon a sut i'w gweithredu.

byd-eang lleol
cyffredinol penodol
gorfodi arwain
perfformiad angen
cenhadaeth ymwybyddiaeth o gostau
sicrwydd risg
rhifau penodol cyfarwyddiadau cyffredinol

Bydd rhai safonau i'w cymhwyso'n fyd-eang, ond weithiau bydd rhaid rhychwantu lleol o ran daearyddiaeth, hinsawdd, ayyb. Fe allai safon roi arweiniad cyffredinol ynghylch nifer o wahanol fathau o wrthrychau, neu fe allai fod yn berthnasol i un math yn unig – archifau, er enghraifft, neu ffotograffau. Gallai geiriad y safon gyfleu rhywfaint o orfodaeth i gydymffurfio, neu fe allai awgrymu rhyw arweiniad, i'w addasu neu i'w anwybyddu hyd yn oed mewn rhai amgylchiadau. Bydd modd seilio safon ar berfformiad gorau'r dechnoleg sydd ar gael, ond mae anghenion y casgliad yn sail
ddichonol arall, yng nghyd-destun cyfyngiadau'r adeilad. Mae rhai safonau i'w gweld braidd ar yr ochr genhadol, ac eraill yn derbyn bod iachawdwriaeth yn rhy gostus i rai. I rai pobl, mae sicrwydd y difrod sy'n deillio o amodau ansafonol yn sylfaen gadarnach na chysyniad risg, lle nad oes ond tebygolrwydd, a hwnnw'n ddigon anodd ei ragfynegi. Mae'n wir fod rhifau penodol yn ddefnyddiol weithiau wrth osod mesurau rheolaeth, ond rhaid cofio pa mor gymhleth y gall y rhyngweithredu fod rhwng casgliadau a'r amgylchedd. Hwyrach y byddai cyfarwyddyo cyfeiriad cyffredinol ar gyfer yr amgylchedd yn fwy o werth.

Ar wahanol adegau, mae pobl wedi dadlau dros bob un o'r ymagweddau yma at gadw rheolaeth ar amgylchedd amgueddfeydd. Fe'n temtir weithiau i weld y golofn ar y chwith yn adlais o'r dyddiau tywyll ers talwm, a'r golofn ar y dde yn ddatganiad o genhadaeth ein hoes oleuedig ni. Ond mae trafodaethau dieffaith am risg ac am ystyriaethau cost a budd yn rhygnu ymlaen ers deng mlynedd, a chafodd ychwaneg o rifau penodedig eu cyhoeddi lai na thair blynedd yn ôl.

Os ydych chi'n chwilio am rifau penodedig, peidiwch ag edrych yng nghyhoeddiadau cyrff fel y Cyngor Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau, neu'i ragflaenydd y Comisiwn Llyfrgelloedd a Gwybodaeth. Mae cyhoeddiadau megis "Benchmarks in Collections Care" [3] a Safon Achredu Cyngor yr Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau [4] yn cyfleu pwysigrwydd rheoli'r amgylchedd, ond heb roi'r awgrym lleiaf o fanylebau, rhai hyblyg neu lac hyd yn oed. Mae lle i ddadlau bod hyn yn amlygu'r duedd oleuedig ym myd safonau. Hybu ac asesu lefelau cymhwyster i sefydliadau yw prif ddiben y dogfennau yma. Nid rhoi arweiniad rhesymedig mo'u swyddogaeth. Cynnig gweithdrefnau gosod maen nhw, a gweithdrefnau er mwyn dangos bod y gweithdrefnau'n cael eu dilyn.

Yr Amgylchedd

Dyma'r ffactorau a ddylai, ym marn y mwyafrif, fod yn elfennau mewn safon amgylcheddol: plâu, gronynnau, llygredd, goleuni, tymheredd, a lleithder. Rhannu'n rhain dan dri phen yw'r cam cyntaf tuag at ddiffinio safonau priodol. Mae'n bosibl y bydd angen safon wahanol ar gyfer pob un o'r tri phen.

plâu

gronynnau

llygredd

sero yn nod rhesymol
goleuni sero heb fod yn rhesymol bob amser

tymheredd

lleithder cymharol

sero'n amherthnasol ac yn amhosibl

Mae sero yn nod rhesymol ar gyfer y tri ffactor cyntaf. Fyddai neb yn lleisio
gwrthwynebiad pe baen ni'n dweud taw cael gwared â phlâu, llwch a llygrynnau oedd ein nod. Dydy cael gwared â'r pethau hyn yn gyfan gwbl ddim yn bosibl, ond mae'r ddelfryd ymhell o fod yn dwp. Yngly^n â
goleuni, mae cael gwared ag uwchfioled yn nod rhesymol. Byddai cael gwared â goleuni gweladwy'n rhesymol lle nad oedd neb i weld y gwrthrychau. Ond bydd angen goleuni oes yw pobl am weld y gwrthrychau. Rhaid i safonau adlewyrchu anghenion yr ymwelwyr a bregusrwydd
y casgliad.

Newid cemegol yw'r difrod pwysicaf sy'n cael ei achosi gan oleuni. Mae gyda lleithder a thymheredd hwythau'u rhan mewn newid cemegol. Does dim modd dileu tymheredd o'r amgylchedd. Rhaid diffinio terfynau tymheredd, yr uchaf ar isaf, ar gyfer lles ffisegol y gwrthrych a chyfforddusrwydd yr ymwelydd. O ran adweithio cemegol, fe allai dileu hyn yn gyfan gwbl ymddangos yn nod delfrydol. Ond byddai'r fath nod yn hollol wahanol i ddileu pryfed neu ddileu llwch. Byddai cost a chanlyniadau gweithio tuag at y nod yn hollol anymarferol.

Gyda mwyafrif y gwrthrychau lle mae lefelau lleithder yn destun pryder, bydd molecylau dw^r yn rhan annatod o strwythur y gwrthrych. Byddai ceisio dileu lleithder yn gyfan gwbl yn newid y gwrthrych yn sylfaenol ac yn ei ddinistrio hyd yn oed. Rhaid i safonau nodi'r lefelau fydd yn cadw adweithiadau cemegol yn araf, ac yn cynnal a chadw cyfanrwydd ffisegol y gwrthrych ar yr un pryd.

Plâu

Nid yw safonau ar gyfer plâu mewn amgueddfeydd yn trafod lefelau
caniataol o boblogaeth plâu yn y ffordd y byddai safonau'n cynnig lefelau caniataol o lygrynnau. Dydyn nhw ddim yn awgrymu chwaith fod dim modd osgoi rhyw lefel o ddifrod a bod rhai felly'i derbyn, fel y digwyddodd gyda rhai o'r canllawiau goleuo. Mae rheolaeth ar ddulliau cemegol o leihau poblogaethau plâu fel y cyfryw, sy'n gwneud gweithredu tuag at ddileu'r plâu'n llwyr yn fwy anodd. Mae'r canllawiau sydd ar gael i amgueddfeydd yn canolbwyntio ar wella monitro ac ar sicrhau hylendid [5].

Gronynnau

Er ein bod ni'n tueddu i weld safonau ar gyfer gronynnau fel safonau lefelau gronynnau, meini prawf ar gyfer effeithlonrwydd offer trin awyr ydyn nhw mewn gwirionedd. Er bod cadwraethwyr yn gofyn yn aml am safonau megis Eurovent 4/5, dydy'r rhain ddim yn cyfeirio'n uniongyrchol at grynhoad nac at ddosbarthiad meintiau'r gronynnau fyddai i'w disgwyl mewn oriel. Y gorau y gall y fath fanyleb ei addunedu yw sicrwydd y byddai'r hidlydd, o roi prawf arno ag offer priodol mewn labordy, yn atal canran benodol o ronynnau o faint arbenigol. Dydy'r fanyleb ddim yn rhoi sylw i'r lle mae'r offer wedi'i osod, nac i lefelau cynnal a chadw ac adnewyddu'r offer, nac i'r gweithgareddau yng ngofod yr oriel. A'r pwynt arall am safonau Eurovent yw'u bod nhw ar gyfer trin awyr â pheiriannau'n unig.

Cynyddodd gwaith adeiladau'n sylweddol mewn amgueddfeydd yn ystod blynyddoedd olaf 20fed ganrif, yn sgîl brwdfrydedd - ac arian y Mileniwm. Dau ddosbarth o ronynnau sydd, yn fras: rhai sy'n fach iawn ac felly'n aros yn yr awyr am amser maith, a'r rhai sy'n fwy ac yn tueddu i ddisgyn a chreu haenau gweladwy o lwch ar arwynebau llorwedd gwrthrychau. Yn y Deyrnas Unedig, mae gwyddor cadwraeth wedi tueddu i anwybyddu'r dosbarth cyntaf. Mae modd mesur yr ail ddosbarth â dull rhad, technoleg isel, sef gosod sleid microsgop. Os bydd y sleid yn colli 1% o'i sglein mewn wythnos, dyna un ‘uned difwyno' [6].

Y ffasiwn boblogaidd ar gyfer y dull mesur yma sy'n sail i lawer o'r syniadau poblogaidd am lefelau llwch. Er bod rhai'n gweld yr uned ddifwyno'n uned fesur anaddas, mae nifer o bapurau wedi cynnig mesur crynoadau llwch fesul uned ddifwyno. Bydd gwaith adeiladu'n codi'r lefel yn uwch na 30 o unedau difwyno mewn wythnos, gyda gweithgareddau dynol cyffredin yn achosi llai na 10 uned ddifwyno'r wythnos [7]. Byddai datgan pa lefel o weithgaredd sy'n dderbyniol yn fodd i osod safon, ac felly'n fodd i bennu pa lefel o ddifwyno fyddai'n dderbyniol. Maen prawf posibl arall yn y maes yma yw cymharu'r raddfa ddifwynoâ chostau ariannol glanhau a chynnal a chadw, a'r difrod tebygol sy'n dod yn sgîl y gweithgareddau yma [8].

Llygrynnau

Y pryder pennaf am gryn gyfnod oedd lefel y llygrynnau a ddeuai i mewn o'r tu allan. Sail y safonau ar gyfer sylffwr deuocsid, osôn, ac ocsidau nitrogen oedd perfformiad gorau offer awyru gyda hidlyddion carbon egnïoledig. Daeth llawer o'r syniadaeth ddiweddar i'r amlwg yng ngwaith Jean Tétreault, o Sefydliad Cadwraeth Canada [9]. Sail ei ymagwedd ef yw'r risg i'r casgliad: rhaid pennu pa mor hir mae'r casgliad i fod i bara, a gosod lefelau caniataol y llygrynnau yn unol â'r penderfyniad hwnnw. Mae e'n cynnig perthynas niwed/dogn fyddai'n rhoi cyfle i gydbwyso dwysedd y crynodiad a'i hyd. (Bydd y patrwm yma'n gyfarwydd o'r safonau ar gyfer dwysedd a hyd datgeliad i ddognau goleuni). Un o themâu eraill Jean Tétreault yw Lefel Dim Effeithiau Andwyol Canfyddadwy (LDEAC). Diffiniaf LDEAC yw crynodiad mor isel o lygryn yn yr amgylchedd nes bod dim difrod i'w weld yn digwydd islaw hynny. Mae'r syniad bod y fath lefel i'w chael yn ofnadwy o ddeniadol, ac mae tystiolaeth anecdotaidd yn ei gefnogi. Ond mae rhai wedi beirniadu technegau arbrofi Tétreault, a gwrthwynebu'r
ddamcaniaeth [10].

Goleuni

Adran cadwraeth Amgueddfa Victoria ac Albert sy'n gyfrifol am y syniadaeth
ddiweddaraf ynghylch lefelau goleuo caniataol [11]. (Rhaid pwysleisio bod y
datblygiadau 'newydd' yma wedi'u seilio ar waith cynharach, anos cael gafael arno, gan Sefydliad Cadwraeth Canada). Risg yw sail ymagwedd y V&A: fyddwch chi ddim yn synnu, o gofio fy rhan i yn y gwaith. Rhaid pennu i ddechrau beth sy'n newid canfyddadwy (NC) o ran lliw, a gofyn wedyn pa raddfa newid sy'n dderbyniol. Os oes trefn dda yn yr amgueddfa, fydd safon o un NC mewn 50 o flynyddoedd ddim yn gofyn am lawer o newid i'r ffordd y mae gwrthrychau sy'n sensitif i olau yn cael eu trin. Ond o leiaf y mae'r safon yn cydnabod bod terfyn i hawliau'r ymwelydd, a bod penderfyniad i arddangos gwrthrych yn benderfyniad ymwybodol i wneud difrod iddo.

Tymheredd, a Lleithder Cymharol

Os hoffech chi ddarllen am y syniadaeth ddiweddaraf ym maes Lleithder Cymharol a Thymheredd, edrychwch ar adran monitro a rheoli'r amgylchedd prosiect Conservation on-line [12]. Fe welwch chi yno nifer o draethodau brwd, y rhan fwyaf o'r cyfnod 1995-96. Dechreuodd y cynnwrf yma gyda datganiad i'r Wasg gan Sefydliad Smithson ym 1994. Yn ôl y datganiad, roedd yr amrediad caniataol cyfredol ar gyfer lleithder cymharol, sef ± 5%( neu'n llai), yn ddiangen o gaeth. Ar ben hynny fe fyddai'r tueddiad i lunio manylebau llawer mwy cyfyng yn achosi gwario heb angen ar osod cyfarpar aerdymheru, a'i gynnal a'i gadw. Roedd cynsail y ddadl wedi pechu llawer mwy o bobl gan ei fod yn rhoi sylw i gost yn hytrach nag i ddiogelwch y casgliadau.

Gyda nifer fawr o'r samplau, roedd gwyddonwyr Sefydliad Smithson wedi
dangos nad oedd amrywiadau ychydig yn fwy na'r fanyleb dderbyniedig yn achosi digon o straen fewnol i beri diriant mewnol y tu hwnt i derfyn hyblygrwydd [13]. Er i Stefan Michalski ddewis beirniadu'r arbrofion oedd yn ategu'r canlyniadau yma, roedd e wedi cyhoeddi casgliadau eithaf tebyg tua'r un adeg [14].

Effeithiau ffisegol tymheredd a lleithder oedd testun y gwaith yn Sefydliad Smithson. Tua'r un adeg, roedd rhai wedi herio'r safonau ar gyfer effaith tymheredd a lleithder ar ddiraddio cemegol. Yn ystod cynhadledd København ar gadwraeth ffotograffau ym 1995, dangosodd Tim Padfield a Jesper Stub Johnsen beth oedd terfynau'r safonau cyfredol ar gyfer archifau ffotograffig [15]. Yn eu barn nhw, “Mae awdurdod safonau yn cymell pobl i ufuddhau heb ystyried yn ddyfnach. Mae hyn yn arbennig o wir am weinyddwyr, sydd heb fawr o wybodaeth am seiliau'r safon mewn arbrofion nac o brofiad. Un o'u pwyntiau oedd bod hinsawdd København yn caniatáu gosod lefel eithaf gyson ar gyfer lleithder cymharol drwy godi'r tymheredd ychydig. Byddai hyn yn saff o fewn y canllawiau derbyniedig. Yn anffodus, byddai'n codi'r raddfa ddiraddio ddwywaith o leiaf. Gan hynny, maen nhw'r argymell datrys y broblem drwy fesurau dadleithio. Ychydig wedyn, enillodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wobr cadwraeth am gysyniad ‘gwresogi cadwraeth', lle mae'r aer o fewn adeiladau hanesyddol yn cael ei wresogi i dymheredd 5 gradd yn uwch na'r tymheredd y tu allan. Mae hyn yn atal lleithder rhag aros yn y parth llwydni, ond, yn anffodus, nid yw'r canlyniadau o ran cadw'r casgliadau mewn cyflwr da yn cyd-fynd ag amcanion datganiedig cadwraeth. Rhaid nodi serch hynny bod graddfeydd diraddio'n is o ganlyniad i wresogi cadwraeth na'r 19/20 gradd Celsius sy'n ofynnol yn ôl safonau cadwraeth eraill. (Mae'n arbed mwy o ynni hefyd.)

ASHRAE

Beibl safonau amgylcheddol Gogledd America yw llawlyfr Gwresogi, Awyru, ac Aerdymheru'r American Society of Heating Refrigerating and Air-conditioning Engineers (ASHRAE) [16], sy'n cynnwys pennod ar Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, ac Archifau. Cenhadaeth ASHRAE, mae'n debyg, yw hyrwyddo gwresogi, awyru, aerdymheru, a rheweiddio. Peth chwithig yw meddwl am osod offer sy'n llyncu ynni er mwyn hyrwyddo byd cynaliadwy! Fydd y manylebau sydd wedi'u cynnig yma ddim yn achub, a dydy cynaliadwyedd ddim yn un o feini prawf safonau amgylcheddol amgueddfeydd. Er hyn, mae ASHRAE yn llygad eu lle wrth dynnu'n sylw at y broblem.

Set o fanylebau yw'r llawlyfr, i'w defnyddio gan beirianwyr. Yr argraff yw bod
cadwraethwyr yn hoffi'r llawlyfr am ei fod wedi'i ysgrifennu ar gyfer cadwraethwyr, gan ei fod yn hyrwyddo cyfathrebu â pheirianwyr - gwaith anodd ar adegau. Man cychwyn y llawlyfr yw systemau rheolaeth fecanyddol weithredol, sy'n gweithio'n eithaf da fel set o fanylebau i beirianwyr. Ond, yn anffodus, dydy hyn ddim yn gweithio hanner cystal fel set o safonau. Rheswm arall am boblogrwydd y bennod yma o 'Feibl ASHRAE' yw'r ffaith taw Stefan Michalski oedd prif awdur argraffiadau 1999 a 2003. Mae'r mwyafrif yn parchu'r hyn sydd gydag ef i'w ddweud. O ganlyniad, mae'i farn ef yn ymylu ar fod yn llais y consensws.

Mae'r llawlyfr yn manylebu pum math o amgylchedd. Does ond un cysonyn yn y math cyntaf, sef i'r lleithder cymharol aros yn ddibynadwy dan 65%. Mae'r pumed yn fanwl iawn, yn gofyn am reolaeth fanwl, heb amrywio'n ôl y tymhorau, o leithder cymharol o ±5%, a thymheredd o ± 4°F (cofiwch ein bod ni'n sôn am America!).

Mae'r manylebau canolraddol yn caniatáu rhyw faint o wahaniaeth o ran pwyntiau gosod yr haf a'r gaeaf. Ynghlwm wrth bob set o amodau ceir disgrifiad o'r risg i'r casgliad. Diddorol yw sylwi bod y fanyleb mwyaf caeth, sydd i fod i beri ‘dim risg o ddifrod mecanyddol', yn pennu amrediad o ±5%. ±3% oedd yn ffasiynol ar un adeg, a bu'r Casgliad Brenhinol yn gofyn un tro am ±1% – gwallgofrwydd llwyr.

Efallai'i bod yn well i peidio â synied am y pum set o amodau fel manylebau ar gyfer offer. Meddyliwn amdanyn nhw fel disgrifiadau o fathau o adeilad, gyda gwahanol bosibiliadau ar gyfer rheolaeth. Mae prosiect MASTER ar gyfer cadwraeth gwrthrychau organig wedi datblygu dosbarthiad o'r fath yn eithaf diweddar [17]. Cafodd y gwaith yma'i gyflwyno yng ngweithdy olaf y prosiect ym mis Ionawr, ond mae e heb ei gyhoeddi hyd yn hyn.

BS 5454

Trown yn ôl at gynhadledd Pwyllgor Cadwraeth Cyngor Rhyngwladol yr Amgueddfeydd yn yr Haag, a'r drafodaeth ar atal diraddio cemegol fel canolbwynt i safon. Ystyriwn hefyd ragor o waith y V&A [18]. Rhaid cyfeirio at y safon Brydeinig sy'n cael mwy o sylw na'r lleill i gyd, sef BS 5454 ‘Recommendations for storage and exhibition of archival document'. (Cafodd y safon ei diweddaru yn 2000). Mae rhagair y ddogfen yn esbonio taw arweiniad ac argymhellion yw swm a sylwedd y safon yma. Dydy'r defnyddwyr ddim i fod i'w dyfynnu fel pe bai hi'n fanyleb. Er hyn mae cyrff sy'n darparu grantiau ar gyfer gwaith adeiladu (Cronfa Dreftadaeth y Loteri, er enghraifft) yn gwneud cydymffurfio â BS 5454 yn amod wrth dderbyn grant. Gwaetha'r modd, mae cydymffurfio â'r amod heb osod cyfarpar aerdymheru yn anodd iawn. Ac mae cyfarpar aerdymheru yn andwyol i gynaliadwyedd amgylchedd byd-eang, yn llyncu llawer o le, yn gamddefnydd o
bensaernïaeth hanesyddol, ac yn costio ffortiwn i'w redeg. Yn ogystal â'r feirniadaeth ynglŷn â'i ddiffyg cynaliadwyedd amgylcheddol a byd eang, mae aerdymheru hefyd yn cymryd llawer o le, yn camddefnyddio pensaernïaeth hanesyddol ac yn ddrud i'w gynnal. Er hyn mae'r Gronfa'n mynnu gwneud y safon yn ddiffiniad o 'arfer gorau' yn ei gynllun meincnodi.

Mae Boris Pretzel, yn ei bapur ef, yn disgrifio anghenion amgylcheddol Archif Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Roedd y Sefydliad yn gofyn i'r Gronfa ariannu adeilad yr Archif. Dadl eu a Boris nad yw diriant sy'n deillio o'r amgylchedd yn broblem i ddalennau unigol o bapur. Yn y V&A, sy'n fythol sych, dydy llwydni ddim yn broblem chwaith. Gan hynny, diraddio cemegol yw'r ffactor pennaf i'w gadw dan reolaeth, yn deillio o acideiddio a hydrolysis. Parhauster yw swm a sylwedd y gwaith i gyd.

Donald Sebera a greodd gysyniad yr isoperm, yn ystod yr Wythdegau. Yn ddiweddar, mae Stefan Michalski wedi anadlu bywyd newydd i'r isoperm [19]. Dechreuwn drwy dynnu graff, gyda thymheredd a lleithder yn echelau iddo. Bydd modd tynnu llinellau ar y graff sy'n cysylltu pwyntiau tymheredd a lleithder lle mae'r union un cyfraddau diraddio. Neu, mewn geiriau eraill, mae isopermau'n llinellau sy'n cysylltu pwyntiau diraddiad cyfartal. Lle mae'r tymheredd a'r lleithder yn uchel, yng nghornel dde brig y graff, bydd y gyfradd ddiraddio'n uchel. Lle mae'r tymheredd a'r gyfradd ddiraddio'n isel, i lawr yng nghornel chwith y gwaelod, bydd y gyfradd ddiraddio'n isel. Hynny yw, bydd y parhauster yn llawer uwch. Mae BS 5454 yn caniatáu rhyw bedrongl fechan o werthoedd ar gyfer lleithder cymharol a thymheredd. Mae pob pwynt posibl i'r chwith o isoperm sy'n pasio drwy ofod caniataol BS 5454 yn rhoi cystal neu well parhauster na hwnnw yn y fanyleb. Eto i gyd, mae bron pob un o'r setiau gwell o amodau yma y tu allan i'r safon! Mae Boris yn dadlau ad absurdum y byddai amodau lleoliad awyr agored, wedi'i gysgodi rhag y glaw a'r heulwen uniongyrchol, yn darparu gwell parhauster na BS 5454.

CEN

Does dim byd, boed fyw neu'n farw, yn ddiogel rhag awydd CEN - y Pwyllgor Ewropeaidd dros Safoni - i safoni [20]. Mae'r Pwyllgor wedi ymateb i fenter o'r Eidal drwy sefydlu Pwyllgor Technegol (TC346), i edrych ar bob agwedd o waith cadwraeth. Mae un Gweithgor, CEN TC 346 WG4 (gyda Jesper Stub Johnsen yn gynullydd arno) yn ystyried yr Amgylchedd. Mae'r gwaith yma mewn llaw, ond dwn i ddim beth yw hynt a helynt y gweithgor ar hyn o bryd.

Mae modd islwytho cyflwyniad o wefan CEN, yn disgrifio ac yn cyfiawnhau gwaith safoni. Bydd cysoni, dywedir, yn lleihau rhwystrau i fasnach, ac yn hyrwyddo diogelwch, yn hyrwyddo cydweithio a chydweithredu rhwng nwyddau, systemau a gwasanaethau. Mae'n hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth ar faterion technegol, sy'n ddigon rhesymol.

Y mae rhyw gymal yn y cyflwyniad yn argymell cyrraedd amcanion CEN "drwy bob dull posibl". Mae hyn yn debycach i bolisi rhyw unben ym 1939 nag i ganllawiau rhyddfrydig yn esbonio'r mater i bobl heddiw. Mae'n debyg y cawn ragor o ffigurau penodedig, hollol anhyblyg.

Cyfeiriadau

1. ‘A paradigm shift for preventive conservation, and a software tool to facilitate the transition'. Robert Waller and Stefan Michalski. 2005. ICOM-CC. Preprints of the 14th triennial meeting, The Hague. ISBN 1-84407-253-3 pp 733-738.

2.'Exploiting Research through Standardization: a best practice guide'.
Maxiquest-norm, 2003. http://www.maxiquest.net

3. 'Benchmarks in Collection Care'. re:source (now MLA). 2002.

4. 'Accreditation Standard'. MLA, 2004
http://www.mla.gov.uk/resources/assets/A/ accreditation_standard_pdf_6686.pdf

5.'Integrated Pest Management: a guide for museums, libraries and archives'.
David Pinnegar and Peter Winsor. MLA. ISBN: 1-903743-79-6
http://www.mla.gov.uk/resources/assets//I/ipm_guide_pdf_6640.pdf

6.'Dust deposition and measurement-a modified approach'. Stuart Adams.1997.
Environmental Technology, 18, pp 345-50.

7. eg 'Monitoring of deposited particle levels within the Royal Museum of Scotland'. Stuart Adams, Katherine Eremin and James Tate. Conservation Science 2002, Archetype Publications.
And follow arguments at http://iaq.dk/iap.htm

8. 'Economics of dust'. Helen Lloyd. 2004. 6th European Commission Conference on Sustaining Europe's Cultural Heritage: from Research to Policy, London, 1-3 September 2004.
http://www.ucl.ac.uk/sustainableheritage/conference-proceedings/pdf/3C.8_lloyd.pdf

9. 'Airborne pollutants in museums, galleries and archives: risk assessment, control strategies, and preservation management'. Jean Tétreault. 2003. Canadian Conservation Institute. ISBN 0-662-34059-0

10. 'The relevance of the NOAEL concept and related parameters in defining pollution thresholds for cultural heritage collections'. Jens Glastrup. 2004.
http://www.isac.cnr.it/iaq2004/pdfabstract/glastrup_abstract.pdf

11. 'The continuing development of a practical lighting policy for works of art on paper and other object types at the Victoria and Albert Museum'.
Jonathan Ashley-Smith, Alan Derbyshire and Boris Pretzel. 2002, ICOM-CC, Preprints of the 13th Triennial Meeting Rio de Janeiro. ISBN1-902916-30-1. pp 3-8.

12. http://palimpsest.stanford.edu/bytopic/environment/

13. eg. ‘Technical considerations for the transport of panel paintings'. M. Richards, M.F. Mecklenburg and C.S. Tumosa. 1998. The Structural Conservation of Panel Paintings.
Proceedings of a symposium at the J Paul Getty Museum, April 1995.
(ed. Kathleen Dardes and Andrea Rothe) J Paul Getty Trust.
ISBN 0-89236-384-3

14. ‘Relative Humidity and Temperature Guidelines: What's Happening?'
Stefan Michalski, 1994.CCI Newsletter No.14 September 1994.
ISSN 1180-3223. pp. 6-8.

15. ‘The breath of Arrhenius: air-conditioning in photographic archives'.
Tim Padfield and Jesper Stub Johnsen. Research Techniques in Photographic Conservation. Proceedings of the conference in Copenhagen 14-19 May 1995. pp 59-64.

16. ASHRAE HVAC Applications Handbook 2003. ISBN 1-931862-22-2

17. http://iaq.dk/iap/iaq2003/posters/master.pdf
http://www.ucl.ac.uk/sustainableheritage/research/masterfinalworkshop.html

18 ‘The RIBA project: a climate strategy for paper-based archives at the Victoria and Albert Museum'. Boris Pretzel. 2005. ICOM-CC. Preprints of the 14th triennial meeting, The Hague. ISBN 1-84407-253-3. pp 681-688

19 ‘Double the life for each five-degree drop, more than double the life for each halving of relative humidity'. Stefan Michalski. 2002. ICOM-CC Preprints of the 13th Triennial Meeting, Rio de Janeiro.
ISBN 1-902916-30-1. pp 66-72

20. http://www.cenorm.be/cenorm/index.htm